2016 Rhif 154 (Cy. 68)

COMISIYNYDD POBL HŶN CYMRU, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae Rheoliadau 2007 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phenodi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y caiff y Prif Weinidog estyn cyfnod swydd y Comisiynydd, sydd yng nghyfnod cyntaf y penodiad, am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. Wrth ddod i benderfyniad ynghylch pa un ai i estyn cyfnod swydd y Comisiynydd, rhaid i’r Prif Weinidog gymryd i ystyriaeth farn pobl hŷn. Os yw’r Prif Weinidog yn estyn cyfnod swydd y Comisiynydd, ni chaniateir i’r Comisiynydd gael ei ailbenodi am ail gyfnod.


2016 Rhif 154 (Cy. 68)

COMISIYNYDD POBL HŶN CYMRU, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016

Gwnaed                               8 Chwefror 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Chwefror 2016

Yn dod i rym                             4 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 28(2) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006([1]), a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ebrill 2016.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007

2. Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007([2]) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

3. Yn rheoliad 3 (penodi’r Comisiynydd)—

(a)     ym mharagraff (5) yn lle “reoliad 4” rhodder “reoliadau 4 a 4A”; a

(b)     ym mharagraff (6) yn lle’r geiriau agoriadol “Caniateir i berson” rhodder “Yn ddarostyngedig i reoliad 4A, caniateir i berson”.

4. Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder—

4A.—(1) Caiff y Prif Weinidog estyn cyfnod swydd Comisiynydd, sydd yng nghyfnod cyntaf y penodiad, am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf.

(2) Dim ond ar ôl cymryd i ystyriaeth farn pobl hŷn yng Nghymru neu’r personau hynny (fel yr ymddengys i’r Prif Weinidog) sy’n cynrychioli barn pobl hŷn yng Nghymru o ran yr estyniad arfaethedig y caniateir i’r estyniad i gyfnod swydd y Comisiynydd o dan baragraff (1) gael ei wneud.

(3) Mae cyfnod yr estyniad o dan baragraff (1) yn cychwyn ar y dyddiad y daw cyfnod pedair blynedd y Comisiynydd i ben.

(4) Yn dilyn yr estyniad i gyfnod swydd o dan baragraff (1), ni chaniateir i’r Comisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod.”.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2016



([1])           2006 p. 30. Mae'r pwerau i wneud rheoliadau yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Yn unol â pharagraff 35(4) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, roedd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.

([2])           O.S. 2007/396 (Cy. 42).